Diogelwch yn Arena Abertawe

Eich diogelwch yw ein prif flaenoriaeth. Gan gydweithio ag awdurdodau lleol a chenedlaethol, mae mesurau diogelwch yn yr Arena yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gymesur.

Ymhlith y mesurau diogelwch wedi'u teilwra sydd ar waith mae chwilio a sganio  personél diogelwch mewn llefydd strategol, monitro teledu cylch cyfyng 

Cofiwch, er na fyddwch efallai'n gweld yr holl weithgarwch diogelwch, bydd ein tîm bob amser yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau eich bod yn ddiogel.

Chwiliadau

Er mwyn diogelwch, bydd chwiliad a / neu sgan magnetig yn digwydd. Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer y broses hon, byddwn yn ceisio cadw unrhyw giwiau'n symud mor gyflym â phosibl.

Mae'r broses archwilio diogelwch yn amod mynediad. Bydd gwrthod archwiliad neu'r defnydd o sylwadau sarhaus, bygythiol neu wahaniaethol, gan gynnwys sylwadau sy'n ymwneud ag arfau neu ffrwydradau, yn arwain at wrthod mynediad.

Sylwer na chaniateir alcohol a sylweddau anawdurdodedig yn y lleoliad. Bydd eitemau o'r fath yn cael eu cymryd, a gellir gwrthod mynediad.

Polisi bagiau

Rydym yn cynghori lle bo'n bosibl eich bod yn osgoi dod ag unrhyw fagiau sy'n fwy na maint A4 i'r lleoliad (h.y. sachau cefn, casys siwtiau ac ati) gan na fyddant yn cael eu caniatáu i'r awditoriwm, ac mae lle yn yr ystafell gotiau yn gyfyngedig. Bydd yn ofynnol i unrhyw fagiau sy'n fwy na hyn gael eu storio yn yr ystafell gotiau am dâl. Bydd pob bag yn cael ei chwilio cyn caniatáu mynediad.

Gadael y lleoliad

Ar ôl ymadael â'r lleoliad, parchwch ein cymdogion yn y Chwarter Morwrol a'r ardaloedd cyfagos trwy gadw sŵn i isafswm a chlirio'r ardal mor gyflym â phosib. Bydd Tîm yr Arena mewn sefyllfa i gynorthwyo gydag unrhyw ofynion, cwestiynau neu bryderon.

Ein Hymrwymiad i Ddiogelu 

Mae'r Grŵp Theatr Llysgenhadon yn cydnabod ei gyfrifoldeb i ddiogelu lles pob plentyn ac oedolyn sydd mewn perygl, ac yn gweithredu gweithdrefnau diogelu priodol i sicrhau diogelwch ein hymwelwyr.

Er mwyn ein helpu i sicrhau hyn, mae angen cymhareb o ddim mwy na 10 o blant o dan 16 oed i bob oedolyn cyfrifol (dros 18 oed). Rhaid i'r rhai o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy'n 18 oed neu'n hŷn bob amser yn ystod eu hymweliad, gan gynnwys hebrwng plant i'r mannau gwerthu a'r toiledau, a phan fyddant yn eistedd yn yr awditoriwm.

Cofiwch fod ein theatr yn agored i bawb, ac felly eich cyfrifoldeb chi yw goruchwylio eich grŵp fel y byddech mewn unrhyw fan cyhoeddus arall. Mae hwn yn amod gwerthu o dan ein Telerau ac Amodau Tocynnau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch diogelu yn ystod eich ymweliad, gofynnwch am gael siarad â'r Rheolwr Ar Ddyletswydd.