Mae'r Arena, a weithredir gan ATG Entertainment, yn cynnwys hyd at 200 o berfformiadau y flwyddyn ar draws cerddoriaeth, comedi, theatr ac e-chwaraeon, yn ogystal â chynadleddau a digwyddiadau. Datblygiad yr Arena yw'r cyflawniad mwyaf arwyddocaol yng ngham un ardal Bae Copr adfywiol canol dinas Abertawe.
Mae’r Arena yn goron ar y cyfan o fewn parc arfordirol 1.1 erw – y parc newydd cyntaf yng nghanol y ddinas ers oes Fictoria – ac wedi’i amgylchynu gan fwytai annibynnol newydd, fflatiau, dau faes parcio aml-lawr newydd a phont ‘porth’ nodedig sy’n ymestyn dros Heol Ystumllwynarth, gan gysylltu canol y ddinas â Marina Abertawe, y traeth a llwybr arfordirol enwog y rhanbarth.
Mae'r Arena hefyd yn rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn.
Sefydlwyd ein gweithredwr, ATG Entertainment, yn y DU ym 1992 ac mae wedi tyfu i fod yn gwmni theatr byw rhif un y byd, gan gwmpasu pob disgyblaeth yn y diwydiant: lleoliadau gweithredu, llwyfannau tocynnau a chynhyrchu sioeau arobryn.