TOCYNNAU O £46.50 (+£3.65 ffi trafodiad)
Archebwch Docynnau Will Young yn Swyddfa Docynnau Swyddogol Arena Abertawe
Mae Will Young wedi treulio'r ddau ddegawd diwethaf ar flaen y sin pop ar ôl dod i'r amlwg yn 2002 fel enillydd gwreiddiol Pop Idol.
Mae ei yrfa wedi arwain at bedwar albwm sydd wedi cyrraedd rhif 1 ar frig y siartiau a dau rif 2, dwy wobr BRIT a phedair sengl rhif un, a chaneuon poblogaidd gan gynnwys ‘Leave Right Now’, ‘Evergreen’ a ‘Jealousy’.
Datblygodd ei yrfa actio ar yr un pryd, gyda rhannau ar y llwyfan a'r sgrin, a bu’n cyflwyno gigs ar y teledu a'r radio, gan gynnwys llenwi rôl Jo Whiley yn rheolaidd ar BBC Radio 2. Cyrhaeddodd ei albwm diweddaraf Crying On The Bathroom Floor rif 3 yn y siartiau eleni ac mae ei lyfr newydd ‘To Be A Gay Man’ ar gael nawr trwy Penguin Books.
