TOCYNNAU O £34.10 (+£3.95 Ffi Trafodiad)

Simon Reeve yw un o deithwyr mwyaf anturus y byd, ac mae ei daith nesaf yn dod ag ef i Arena Abertawe!

Mae ei frand unigryw o wneud ffilmiau dogfen yn cyfuno teithio ac antur gyda materion cyfoes, hanes, bywyd gwyllt, diwylliant a chadwraeth. Mae ei deithiau wedi mynd ag ef i fwy na 130 o wledydd, ar draws jyngloedd, anialwch, mynyddoedd a chefnforoedd, ac i rai o ranbarthau mwyaf prydferth, peryglus ac anghysbell y byd.

 

Ar ei daith newydd yng ngwledydd Prydain, bydd Simon yn cynnig straeon, syrpréis, cyffro, meddyliau dyfnach a chwerthin calonog. Mae eisiau gneud ac annog cynulleidfaoedd i fynd allan o'u parth cysur, cymryd ychydig o risgiau ysgafn mewn bywyd, a chofleidio'r awyr agored a'r byd ehangach.

 

Gyda lluniau y tu ôl i'r llenni a delweddau trawiadol, bydd Simon yn ysbrydoli ac yn atgoffa cynulleidfaoedd bod angen mwy o deithiau arnom i gyd yn ein bywydau, a digon o brofiadau gwyllt.

 

UWCHRADDIO SEDD BOCS A LLETYGARWCH

Awydd tipyn ychwanegol o glitz a glamor ar gyfer y noson? VIP Box Seats a Corporate Hospitality ar gael ar gyfer sioeau dethol. Cysylltwch â Events@TheAmbassadors.com am fwy o wybodaeth.