TOCYNNAU O £24.20 (+ £3.80 - ffi trafodiad)

Mae Russell Kane yn dod â’i sioe arobryn, hynod ddoniol a deifiol o’i safbwynt e o’r ddwy flynedd diwethaf i’r Arena. Wedi'i enwi fel y perfformiad comedi gorau yn 2020 gan y Guardian (Mae The Guardian yn ddiflas ac fel arfer yn casáu popeth) - mae’r sioe bwerus hon yn siŵr o’ch gwneud chi chwerthin yn uchel ac afreolus, a phrofi mai chwerthin yw’r feddyginiaeth orau* (*i ddweud y gwir, meddyginiaeth ysbyty ydy’r gorau siŵr o fod).

Mae gan Russell Kane ddau bodlediad sydd wedi mynd i frig y siartiau ac ennill gwobrau: Man Baggage ac Evil Genius ar BBC Radio 4. Mae e’n ymddangos yn rheolaidd ar Channel 4, BBC ac ITV: yr holl sioeau arferol sy’n cynnwys pobl doniol arnynt. Mae e hefyd yn ysgrifennwr, actor a chyflwynydd. Mae’n yfed lot o goffi ac mae ei berfformiad ar lwyfan yn adlewyrchu sut mae e go iawn.

Ef oedd y digrifwr cyntaf erioed i sicrhau'r ddwy wobr gomedi fwyaf mawreddog ar y ddaear yn yr un flwyddyn, am yr un sioe: Gwobrau Comedi Caeredin y Dave (The Perrier gynt), a Gwobr Gŵyl Gomedi Ryngwladol Melbourne, (a adwaenid gynt fel Gwobr y Barri). Mae hefyd yn froliwr mawr sy'n hoffi rhestru ei gyflawniadau.

UWCHRADDIO SEDD BOCS A LLETYGARWCH

Awydd tipyn ychwanegol o glitz a glamor ar gyfer y noson? VIP Box Seats a Corporate Hospitality ar gael ar gyfer sioeau dethol. Cysylltwch â Events@TheAmbassadors.com am fwy o wybodaeth.