TOCYNNAU O £36.40 (+£3.65 ffi drafodiad)

Archebwch Docynnau Rhod Gilbert - The Book of John yn Swyddfa Docynnau Swyddogol Arena Abertawe

Y seren Gymreig Rhod Gilbert yw un o brif dalentau comedi'r DU. Mae wedi mwynhau llawer o flynyddoedd llwyddiannus fel seren deledu a radio ac mae'n enw amlwg fel cyflwynydd profiadol, awdur toreithiog a pherfformiwr byw o'r radd flaenaf.

Mae wedi bod yn amser hir, ond mae'r digrifwr o Gymru, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn ôl, gyda sioe fyw newydd sbon. Yn ystod hoe o chwe blynedd o stand-yp, mae llawer wedi digwydd i Rhod. Y cwbl bron yn g***u. A phan oedd yn meddwl ei fod wedi cyrraedd y gwaelod un, cyfarfu â boi... o'r enw John.

Yn y sioe hon, rydym yn gweld Rhod mor ddoniol ag erioed, ond fel erioed o'r blaen. Amrwd, personol a gonest iawn; dim mwy o gelwyddau, dim mwy o nonsens.

Fel yn Rhod Gilbert’s Work Experience, Would I Lie to You?, Taskmaster, Qi, The Apprentice: You're Fired, Live at The Apollo, Have I Got News for You?, a llawer mwy...

UWCHRADDIO SEDD BOCS A LLETYGARWCH

Awydd tipyn ychwanegol o glitz a glamor ar gyfer y noson? VIP Box Seats a Corporate Hospitality ar gael ar gyfer sioeau dethol. Cysylltwch â Events@TheAmbassadors.com am fwy o wybodaeth.