Archebwch Docynnau Kevin Bridges yn Swyddfa Docynnau Swyddogol Arena Abertawe
Mae Kevin Bridges yn dychwelyd gyda'i sioe newydd sbon. Mae Overdue Catch-Up yn gwahodd cynulleidfaoedd i mewn i feddwl un o'r doniau comedi mwyaf sydd gan y DU i'w gynnig.
Gyda gyrfa sydd wedi para dros 18 mlynedd, mae gan Kevin Bridges brofiad bywyd dyn ddwywaith ei oed , sy'n ei helpu i daro'r hoelen ar ei phen gyda'i agwedd tuag at y byd modern.
Mae Bridges eisoes wedi torri record tocynnau gyda’i ddwy daith ddiwethaf, ‘Brand New’ (2018) ac ‘A Whole Different Story’ (2015) ac aeth ymlaen i ennill gwobrau gan Ticketmaster ac Ents24 am docynnau oedd wedi gwerthu cyflymaf y flwyddyn. Cafodd ei goroni hefyd gan gwsmeriaid Ticketmaster fel Tocyn y Flwyddyn y DU yn 2018.
Mae dwy daith olaf Kevin wedi gwerthu ychydig o dan 1,000,000 o docynnau ledled y byd gan gynnwys 35 o sioeau yng nghanolfan eiconig Hydro, Glasgow, gan sicrhau ei le fel y sioe fwyaf poblogaidd yn y lleoliad hwnnw ar gyfer un artist.
Peidiwch â cholli'r cyfle i ddal un o'r digrifwyr mwyaf craff o fewn y sin heddiw ar dop ei gêm.
“A comedy masterclass”
The Herald
“Blessed with that extra smidgin of God-given talent”
The Times