TOCYNNAU O £27.90 (+£3.80 ffi trafodiad)

Mae'r Kaiser Chiefs yn fand sydd wedi ennill sawl gwobr. Bydd eu taith genedlaethol yn cychwyn yn Arena Abertawe ar ddydd Mercher 2 Tachwedd 2022, ynghyd â'r ffefrynnau byw The Fratellis a The Sherlocks!

Peidiwch â cholli'r cyfle i glywed yr hit enwog 'Ruby', â'r anthemau 'Oh My God', 'Everyday I Love You Less and Less', 'Never Miss A Beat' ac eraill, yn fyw yma yn Arena Abertawe.

Bydd y triawd o ddinas Glasgow, The Fratellis, â chymdogion y Kaiser Chiefs o Swydd Efrog, The Sherlocks, yn ymuno â'r band, gan agor y sioeau pob nos.

Cafodd y band ei enwebu am wobr Mercury ar gyfer eu halbwm cyntaf, 'Employment' a ennillodd tair wobr BRIT a gwobr Ivor Novello am Albwm y Flwyddyn. Maent wedi gwerthu dros 8 miliwn albwm ledled y byd.

Fel rhai o fandiau gitâr mwyaf llwyddiannus Prydain, peidiwch a cholli'r cyfle i weld eu sioeau byw. Dyma fandiau cyffrous sy'n feistri ar eu crefft. Mae'n argoeli i fod yn noson wych, llawn egni ac   amser da!

Os oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad, cysylltwch â'n llinell fynediad lleoliad drwy ffonio 01792 804770 i brynu'ch tocynnau.