Mae’r ‘supergroup’ Americanaidd Hollywood Vampires wedi cyhoeddi eu bod yn dychwelyd i’r DU gyda thaith yng Ngorffennaf 2023. Mae’n amhosib cadw band da i lawr.
Mae eu cariad angerddol tuag at glasuron roc a rôl Brydeinig yn amlwg, gyda setiau llawn caneuon anhygoel gan The Who, Led Zeppelin, David Bowie, Motörhead a mwy.
Mae’r aelodau sy’n disgrifio’u hunain fel ‘y band bar gorau yn y byd”, ”, yn cynnwys rhai o fawrion y byd roc, sef Alice Cooper, Johnny Depp a Joe Perry o Aerosmith, â'r gitarydd Tommy Henriksen. Eu traddodiad yw chwarae teyrnged llawn egni i’r arwyr sydd wedi’n gadael ni o’r byd cerddoriaeth, a’u deunydd gwreiddiol eu hunain wedi ei ryddhau ar eu halbwm stiwdio 'Rise'.
Gyda chlasuron oeraidd gan fandiau megis The Doors, Love, AC/DC a chaneuon poblogaidd Alice ac Aerosmith, cafodd y band ei bleidleisio fel y “perfformiad gorau” 2018 yn Wembley Arena ar eu taith olaf yn y DU.
Bydd gwesteion arbennig yn ymuno â'r band, trwy gyfrwng band San Francisco The Tubes.
UWCHRADDIO SEDD BOCS A LLETYGARWCH
Awydd tipyn ychwanegol o glitz a glamor ar gyfer y noson? VIP Box Seats a Corporate Hospitality ar gael ar gyfer sioeau dethol. Cysylltwch â Events@TheAmbassadors.com am fwy o wybodaeth.