TOCYNNAU O £32.40 (+£3.65 ffi trafodiad)

Archebwch Docynnau Diversity - Connected 2022 yn Swyddfa Docynnau Swyddogol Arena Abertawe

Gwnaeth Diversity gryn argraff wedi iddynt ennill y drydedd gyfres o Britain’s Got Talent yn 2009. Ers hynny maen nhw wedi bod ar naw taith llwyddiannus o’r DU ac Iwerddon, wedi gwerthu dros 600,000 o docynnau, ac wedi rhoi perfformiadau diri yn fyw ac ar y teledu. I ddathlu’r llwyddiant hwn aethant ar daith 48 sioe o’r DU, Born Ready - gyda phob tocyn wedi’i werthu.

Mae disgwyl i'r daith hon fod hyd yn oed yn fwy poblogaidd, ac fel yr addawodd Diversity i'w cefnogwyr ar daith Born Ready, mi fyddant yn parhau â’u gweledigaeth fod dim byd allan o’u cyrraedd. I fynd â nhw i ddegawd newydd o Diversity, mae Ashley wedi creu sioe newydd, Connected, sy'n canolbwyntio ar fyd y cyfryngau cymdeithasol, y rhyngrwyd, a'r oes ddigidol rydyn ni'n byw ynddi nawr, ond yn bwysicach fyth ar sut mae hyn yn ein cysylltu ni gyd.

Ar wahân i'w sioeau byw anhygoel, mae Diversity yn ddiamau yn sêr teledu go iawn. Dychwelodd Ashley Banjo fel beirniad ar Dancing on Ice yn gynharach eleni. Mae Ashley hefyd yn gyflwynydd ac yn cyfrannu yn greadigol i sioe The Real Full Monty a enwebwyd gan BAFTA ac am wobr Emmy Ryngwladol, y Broadcast Award, a The Real Full Monty: Ladies Night a enillodd wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol, gyda'r ddwy sioe yn codi ymwybyddiaeth o Ganser y Prostad a Chanser y Fron. Roedd Ashley hefyd y tu ôl i ddwy gyfres lwyddiannus o Flirty Dancing ar Channel 4 ac fe ymddangosodd fel beirniad gwadd yn lle Simon Cowell ar raglen Britain’s Got Talent ar ITV y llynedd. Cynhaliodd Ashley sioe nos Sadwrn newydd sbon ar gyfer ITV hefyd, The Void dros yr haf.  

Bu'r cyd-aelod o DiversityJordan Banjo  yn gyflwynydd ar ddwy gyfres o'r  sioeBBC 1  The Greatest Dancer. Mae Jordan ynghyd â Perri Kiely yn rhan o dîm cyflwyno radio brecwast,  Kiss bob dydd yn ystod yr wythnos.