TOCYNNAU O £32.90 (+£3.80 ffi trafodiad)

Peidiwch â cholli prif leisydd Slipknot a Stone Sour, Corey Taylor, pan fydd yn ymweld ag Arena Abertawe ar ei daith yn 2022!

Mae ffans Corey Taylor, a'r holl gerddoriaeth mae wedi ei gynhyrchu, yn gwybod un peth – disgwyliwch yr annisgwyl.

Disgwyliwch artist sy'n caru pŵer cathartig cerddoriaeth, sy'n gwrthod cael ei roi mewn bocs - sy'n gallu bod ar frig siartiau albwm a radio byd-eang, ond sy'n dal i ffeindio llwybrau newydd.

Ar ei daith unigol gyntaf, bydd Taylor yn arddangos ei gariad di-pen-draw at ysgrifennu caneuon, at berfformio, ac at gerddoriaeth sydd wedi ysbrydoli ei daith.

Mewn datblygiad creadigol arall, mae Taylor bellach ar fin cyflwyno ei albwm unigol cyntaf CMFT—detholiad eclectig o ganeuon foltedd uchel yr un mor wefreiddiol ag yr artist ei hun.

Os oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad, cysylltwch â'n llinell fynediad lleoliad drwy ffonio 01792 804770 i brynu'ch tocynnau.