Mae cystadleuaeth gyfansoddi caneuon Cân i Gymru yn ôl, ac am y tro cyntaf eriod, caiff sioe Cân i Gymru ei chynnal eleni a’i ddarlledu’n fyw o lwyfan Arena Abertawe ar ddydd Gŵyl Dewi, nos Wener Mawrth y 1af.

Bydd perfformiadau gan sawl artist adnabyddus ynghyd ag 8 gân derfynol y gystadleuaeth gyda band byw.

Mae Cân i Gymru yn conglfaen i’r diwydiant cerdd yng Nghymru a digwyddiad mwyaf rhyngweithiol S4C. Mae ein diolch i gystadleuaeth Cân i Gymru am rai o ganeuon enwocaf ein gwlad ac fe fydd perfformiad o un o’r caneuon eiconig hynny yn ystod y sioe.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif ganwr y Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr fydd yn cadeirio'r rheithgor, yn mentora'r cystadleuwyr ac yn cyflwyno tlws newydd sbon Cân i Gymru i'r enillydd.

Mae’r ail a'r drydedd wobr y mwyaf erioed yn hanes y gystadleuaeth. Mi fydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn bachu £5,000 a chytundeb perfformio, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.  

Mae Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn dychwelyd i gyflwyno'r sioe yn fyw o lwyfan yr Arena, gydag artistiaid a DJ’s cyn darlledu’n fyw ar S4C am 8 tan hwyr.

Mae tocynnau ar gael yn ddi-gost drwy’r wefan a swyddfa docynnau Arena Abertawe.

Mae Cân i Gymru eleni yn rhan o Ŵyl Croeso Abertawe 2024.

Mae hwn yn ddigwyddiad mynediad cyffredinol, heb seddi neilltuedig.