Archebwch Docynnau Bill Bailey: En Route to Normal Tickets yn Swyddfa Docynnau Swyddogol Arena Abertawe
Sut y gwnaethon ni gyrraedd yma? Sut mae dod o hyd i'r ffordd drwy hyn? A phwy yn union ydyn ni eto?
Yn y sioe newydd hon, mae Bill yn codi'r cwestiynau hyn ac eraill sy'n codi o'r foment yma mewn hanes, ac yn ceisio gweld ffordd drwy anesmwythed rhyfedd ein byd newydd. Gan olrhain cyfnodau drwy adegau yn ein gorffennol, mae Bill yn chwilio am bethau sy'n gyffredin lle mae gwytnwch dynol a'n gallu i ddioddef wedi ein helpu ni drwy adegau anodd.
Drwy gerddoriaeth, caneuon ac atgofion, mae Bill yn ystyried ein blaenoriaethau newidiol, rhyfeddod cŵn, sut gall pethau syml ein cadw ar y trywydd iawn a'i gariad newydd at awyrblymio (a llawer mwy!)
Mae EN ROUTE TO NORMAL yn gymysgedd doniol o straeon, cerddoriaeth a hanes sy'n cynhesu'r galon, ond hefyd yn genhadaeth bersonol i ddod o hyd i'n ffordd drwy'r cynfod rhyfedd yma!
