Mae wedi diddanu cynulleidfaoedd yn Llundain, Efrog Newydd, Toronto a’r Almaen, yn ogystal ag ennill yr ‘Evening Standard Award’ ar gyfer y sioe gerdd newydd orau. Nawr, bydd sioe gerdd arbennig BAT OUT OF HELL ar daith o amgylch y DU yn 2022, ac yn cyrraedd Abertawe ym mis Rhagfyr eleni!
ENILLYDD! SIOE GERDD ORAU GWOBRAU THEATR Y LONDON EVENING STANDARD
Bydd anthemau Jim Steinman a Meat Loaf yn dod yn fyw wrth i’r sioe sy’n cael ei brolio uno hud a lledrith sioe gerdd gydag egni roc a rôl.
Ymunwch â Strat, arweinydd ifanc y criw gwrthryfelgar 'The Lost' wrth iddo syrthio mewn cariad â Raven, merch brydferth rheolwr teires Obsidian.
Mae’r sioe, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnwys clasuron megis I'd Do Anything For Love (But I Won't Do That), Paradise By The Dashboard Light, Two Out Of Three Ain't Bad, Dead Ringer For Love a Bat Out of Hell, mewn modd theatrig gyffrous, yn wahanol i unrhyw un arall.
Y NOSON ALLAN ORAU – GWARANTEDIG (gyda'ch dillad ymlaen!)
Mae Bat Out Of Hell yn cael eu gyflwyno er cof am Jim Steinman (Tachwedd 1, 1947 - 19 Ebrill, 2021) a Meat Loaf (27 Medi, 1947 - Ionawr 20 , 2022)
Sylwer: mae'r perfformiad hwn yn cynnwys goleuadau strôb. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Perfformiadau Hygyrch Bat Out Of Hell
Mer 7 Rhag 2022, 14:30 – Sain a ddisgrifir
Maw 13 Rhag 2022, 19:30 - Arwyddwyd
Bydd darpariaethau BSL ar berfformiad Bat Out Of Hell yn Arena Abertawe ar 13 Rhagfyr am 19:30 yn cael eu darparu gan Donna Ruane* (TheatreSign).
*Yn amodol ar newid