Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu Merched mewn STEM ac 20 mlynedd o Technocamps.

Mae Dathliad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol Menywod TG Cymru yn rhoi cipolwg ar yr ystod amrywiol o gyfleoedd busnes a gyrfa i ferched yn yr 21ain Ganrif. Mae'n cynnig llwyfan i rannu profiadau, gwybodaeth, ac arfer gorau i fenywod, yn arbennig y rhai sy'n gweithio o fewn gwyddoniaeth a thechnoleg.

Bydd y digwyddiad yn arddangos y gwaith sy'n cael ei wneud gan fusnes, elusennau a phrosiectau ledled y wlad i annog merched i astudio a gweithio'r diwydiannau STEM. Rydym yn croesawu pob menyw a chynghreiriaid!

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Yn flynyddol, cynhelir miloedd o ddigwyddiadau ledled y byd i ysbrydoli merched a dathlu cyflawniadau. Mae gwe fyd-eang o weithgarwch lleol cyfoethog ac amrywiol yn cysylltu menywod o bob cwr o'r byd gan gynnwys ralïau gwleidyddol, cynadleddau busnes, gweithgareddau'r llywodraeth a digwyddiadau rhwydweithio. Gobeithio y gallwch ymuno â ni am noson sy'n addo diddanu, ysgogi ac ysbrydoli.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Kevin Johns MBE gyda Sabrina Lee o'r BBC yn brif siaradwr gwadd. Yn dilyn hyn, bydd Dr Jenifer Millard, Clare Johnson a Casey Hopkins yn trafod eu profiadau fel Menywod mewn STEM ac yn mynegi cipolwg ar sut y gallwn barhau i gau'r bwlch rhwng y rhywiau.

Agenda:

17:00 - Cyrraedd a Chanapés

18:00 - Croeso

18:10 - Sabrina Lee

18:30 - Cwrs cychwyn a phrif gwrs

20:00 - Dr Jenifer Millard

20:20 - Clare Johnson

20:40 - Pwdin

21:00 - Casey Hopkins

21:30 - Sylwadau i Gloi

Noddir y digwyddiad hwn gan Admiral.

Technocamps a Sefydliad Codio yng Nghymru - Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023
Dydd Mercher, Mawrth 8, 2023
i
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu Merched mewn STEM ac 20 mlynedd o Technocamps.