Mae trydedd Gynhadledd flynyddol Canol y Ddinas yn mynd i fod yn ddiwrnod anhygoel, gan arddangos popeth sy'n wych am Abertawe a chlywed gan y bobl, sefydliadau a busnesau sy'n gwneud i newid ddigwydd. Mae'n agored i bawb, ac mae gwahoddiad i CHI!
Pwrpas y thema eleni yw Cefnogi Lleol – prynu gan fusnesau lleol, cefnogi ein gilydd, a chadw mwy o'n gwariant yn yr economi leol. Dewch draw i gwrdd â'r busnesau a'r sefydliadau lleol anhygoel sy'n gwneud Abertawe yr hyn ydyw. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle perffaith i ddod o hyd i gyflenwyr, cwsmeriaid a chydweithwyr newydd.
P'un a ydych am wybod mwy am yr hyn sy'n digwydd yng Nghanol Dinas Abertawe, codi proffil eich busnes neu brosiect, neu gymryd rhan mewn sgyrsiau i helpu i lunio'r dyfodol, mae cymaint o resymau gwych dros fod yn rhan o'r digwyddiad hwn.
Os ydych yn adwerthwr yng nghanol y ddinas, yn fusnes rhanbarthol, yn brosiect cymunedol neu'n sefydliad dielw, mae Cynhadledd Canol Dinas Abertawe yn lle perffaith i godi eich proffil a gwneud cysylltiadau. Mae 5 parth arddangos i fod yn rhan ohonynt;
- Creadigol & Digidol
- Datblygiad a Buddsoddiad
- Ynni a'r Amgylchedd
- Cyrchfan Abertawe
- Parth Rhanbarthol
Mae gennym dros 100 o fusnesau a sefydliadau yn arddangos, lein-yp o arweinwyr meddwl ar y prif lwyfan, a'r cyfle rhwydweithio gorau... rydym yn gyffrous iawn i'ch croesawu'n ôl i Arena anhygoel Abertawe ar gyfer digwyddiad pwysig mewn lleoliad nodedig!
Am ddim i fynychu – cofrestrwch drwy'r ddolen ar y dudalen hon!

